Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:01 - 10:57 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford Vaughan Gething Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Nick Ramsay Alun Ffred Jones Eluned Parrott David Rees Ken Skates |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Julie Barratt, Sefydliad Siartredig lechyd yr Amgylchedd Pauline Burt, Film Agency Wales Dr Tony Calland, Cymdeithas Feddygol Prydain Bethan Jones, Cardiff Council Dr Keir Lewis, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Lara Date (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau is-bwyllgorau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Menter a Busnes i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2. Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn dystiolaeth 5
2.1 Clywodd yr is-bwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr.
2.2 Bydd y Pwyllgor yn ceisio rhagor o dystiolaeth gan brifysgol Stirling ar yr ymchwil y mae wedi ei wneud i lefelau ysmygu ar sgrin, ei effaith ar iechyd y cyhoedd ac amlygu cynnyrch sigarennau.
3. Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn dystiolaeth 6
3.1 Clywodd yr is-bwyllgor dystiolaeth gan Asiantaeth Ffilm Cymru.
3.2 Bydd y Pwyllgor yn cael yr adroddiad llawn gan ganolfan ymchwil economaidd gymdeithasol y DU sydd wedi ei hariannu i astudio rheoli tybacco.
4. Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn dystiolaeth 7
4.1 Clywodd yr is-bwyllgorau dystiolaeth gan Gyngor Caerdydd a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.
4.2 Bydd y Pwyllgor yn cael astudiaeth achos o brofiad cynhyrchu ffilmiau yng Ngogledd Iwerddon a gymerwyd o adroddiad ar effaith economaidd diwydiant ffilm y DU.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5.1 Cytunwyd â’r cynnig.
6. Y prif faterion a’r camau nesaf
6.1 Cytunodd yr is-bwyllgorau i glywed rhagor o dystiolaeth lafar ar ôl y Pasg gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Swyddog Meddygol, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Panel y Sector Diwydiannau Creadigol a Chomisiwn Sgrin Cymru.
7. Papurau i'w nodi
7.1 Nodwyd bapurau.
8. SFP(4)-03-13 - Papur 6 - Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan ASH Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 22 Ionawr
9. SFP(4)-03-13 - Papur 7 - Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan Equity yn dilyn cyfarfod ar 29 Ionawr.
9.1 SFP(4)-03-13 - Papur 8 a 9 – Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dilyn cyfarfod ar 29 Ionawr